Numbers 31

Y rhyfel yn erbyn Midian

1Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 2“Dial ar bobl Midian am beth wnaethon nhw i bobl Israel. Ar ôl i ti wneud hynny byddi di'n mynd at dy hynafiaid sydd wedi marw.”

3Felly dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Dewiswch ddynion i fynd i ryfel yn erbyn Midian, ac i ddial arnyn nhw ar ran yr Arglwydd. 4Rhaid anfon mil o ddynion o bob llwyth i'r frwydr.”

5Felly dyma nhw'n dewis mil o ddynion o bob llwyth yn Israel – un deg dau mil o ddynion arfog yn barod i ymladd. 6A dyma Moses yn eu hanfon nhw allan, gyda Phineas (mab Eleasar yr offeiriad) yn gofalu am y taclau o'r cysegr a'r utgyrn i alw'r fyddin.

7A dyma nhw'n mynd allan i ymladd yn erbyn Midian, fel roedd yr Arglwydd wedi gorchymyn i Moses. Dyma nhw'n lladd y dynion i gyd, 8gan gynnwys pum brenin Midian, sef Efi, Recem, Swr, Hur, a Reba, a hefyd Balaam fab Beor.

9Yna dyma fyddin Israel yn cymryd merched a phlant Midian yn gaeth. Dyma nhw hefyd yn cymryd eu gwartheg, defaid, a popeth arall o werth oddi arnyn nhw. 10Wedyn dyma nhw'n llosgi eu trefi a'u pentrefi nhw i gyd. 11Dyma nhw'n ysbeilio ac yn dwyn popeth, gan gynnwys y bobl a'r anifeiliaid i gyd. 12A dyma nhw'n mynd â'r cwbl yn ôl at Moses ac Eleasar yr offeiriad, a holl bobl Israel oedd yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth yr Afon Iorddonen gyferbyn â Jericho.

13Aeth Moses ac Eleasar a'r arweinwyr eraill i gyfarfod y fyddin tu allan i'r gwersyll. 14Ond dyma Moses yn gwylltio'n lân gyda swyddogion y fyddin – y capteiniaid ar unedau o fil a'r unedau o gant oedd wedi dod yn ôl o'r frwydr. 15“Pam ydych chi wedi cadw'r merched yn fyw?” meddai wrthyn nhw. 16“Dyma'r union bobl wnaeth wrando ar Balaam, a gwneud i bobl Israel wrthryfela yn erbyn yr Arglwydd yn y digwyddiad yn Peor! A'r canlyniad oedd y pla ofnadwy wnaeth daro pobl yr Arglwydd! 17Felly lladdwch y bechgyn i gyd, a lladdwch bob gwraig sydd wedi cysgu gyda dyn. 18Ond cewch gadw'n fyw y merched ifanc hynny sydd heb eto gael rhyw.”

19“Pwy bynnag sydd wedi lladd rhywun, neu wedi cyffwrdd corff marw, rhaid i chi aros tu allan i'r gwersyll am saith diwrnod. A rhaid i chi a'r merched dych chi wedi eu cymryd yn gaeth fynd drwy'r ddefod o buro eich hunain ar y trydydd diwrnod a'r seithfed diwrnod. 20Rhaid i chi lanhau eich dillad i gyd, a popeth sydd wedi ei wneud o groen anifail, blew gafr neu bren.”

21Yna dyma Eleasar yr offeiriad yn dweud wrth y dynion oedd wedi bod yn ymladd yn y frwydr, “Dyma reol roddodd yr Arglwydd orchymyn i Moses i ni ei chadw: 22Mae popeth sydd wedi ei wneud o aur, arian, pres, haearn, tin neu blwm 23(popeth sydd ddim yn llosgi) i gael ei buro drwy dân, a bydd yn lân yn seremonïol, ond rhaid iddo gael ei daenellu gyda dŵr y puro hefyd. Mae popeth fyddai'n llosgi yn y tân i gael ei buro gyda'r dŵr yn unig. 24Yna rhaid i chi olchi eich dillad ar y seithfed diwrnod. Wedyn byddwch chi'n lân yn seremonïol, a gallwch ddod yn ôl i mewn i'r gwersyll.”

Rhannu'r ysbail

25Yna dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 26“Dw i eisiau i ti ac Eleasar yr offeiriad, a'r arweinwyr eraill, gyfri'r ysbail gafodd ei gasglu i gyd – yn ferched a phlant ac yn anifeiliaid. 27Yna rhannu'r cwbl rhwng y dynion aeth i ymladd yn y frwydr, a gweddill pobl Israel. 28Ond rhaid cymryd cyfran i'r Arglwydd o siâr y milwyr fuodd yn ymladd: Cyfran yr Arglwydd o'r caethion, y gwartheg, asynnod a defaid, fydd un o bob pum cant. 29Mae hwn i'w gymryd o siâr y milwyr, a'i roi i Eleasar yr offeiriad i'w gyflwyno yn offrwm i'r Arglwydd. 30Yna o'r hanner arall, sef siâr pobl Israel, rhaid cymryd un o bob hanner cant o'r caethion, y gwartheg, yr asynnod, a'r defaid. Un o bob hanner cant o'r anifeiliaid i gyd, i'w cyflwyno i'r Lefiaid sy'n gofalu am y Tabernacl i'r Arglwydd.”

31Felly dyma Moses ac Eleasar yr offeiriad yn gwneud yn union fel roedd yr Arglwydd wedi dweud wrth Moses.

32A dyma swm yr ysbail roedd y dynion wedi ei gasglu:

675,000 o ddefaid,
3372,000 o wartheg,
3461,000 o asynnod,
35a 32,000 o ferched ifanc oedd erioed wedi cysgu gyda dyn.

36Siâr y dynion oedd wedi mynd i ymladd yn y rhyfel oedd:

337,500 o ddefaid
37– 675 ohonyn nhw'n mynd i'r Arglwydd.
3836,000 o wartheg – 72 ohonyn nhw i'r Arglwydd.
3930,500 o asynnod – 61 ohonyn nhw i'r Arglwydd.
4016,000 o ferched ifanc – 32 ohonyn nhw i'r Arglwydd.

41Felly dyma Moses yn rhoi'r siâr oedd i'w gyflwyno'n offrwm i'r Arglwydd i Eleasar yr offeiriad, yn union fel roedd yr Arglwydd wedi dweud wrtho.

42A dyma oedd siâr pobl Israel, sef hanner arall yr ysbail:

43675,000 o ddefaid,
4436,000 o wartheg,
4530,500 o asynnod,
46a 16,000 o ferched ifanc.

47A dyma Moses yn cymryd un o bob hanner cant o siâr pobl Israel, a'i roi i'r Lefiaid oedd yn gofalu am y Tabernacl i'r Arglwydd, yn union fel roedd yr Arglwydd wedi dweud wrtho.

48Yna dyma'r swyddogion milwrol yn dod at Moses – capteiniaid yr unedau o fil ac o gant. 49A dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae dy weision wedi cyfri'r dynion fuodd yn ymladd yn y frwydr gyda ni. Dŷn ni wedi colli neb! 50Felly dŷn ni wedi dod ag offrwm i'r Arglwydd o'r tlysau aur wnaethon ni eu casglu – breichledau, modrwyau, clustdlysau a chadwyni. Mae hyn i wneud pethau'n iawn rhyngon ni â Duw.”

51Dyma Moses ac Eleasar yn cymryd yr aur ganddyn nhw – pob math o dlysau cywrain. 52Roedd yr aur i gyd, gafodd ei gyflwyno i'r Arglwydd gan y capteiniaid, yn pwyso bron ddau gan cilogram. 53(Roedd pob un o'r dynion wedi cymryd peth o'r ysbail iddo'i hun.) 54Felly dyma Moses ac Eleasar yr offeiriad yn derbyn yr aur gan y capteiniaid, ac yn mynd â'r cwbl i Babell Presenoldeb Duw i atgoffa'r Arglwydd o bobl Israel.

Copyright information for CYM